Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2015

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(246)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.

 

Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 14.15

 

</AI2>

<AI3>

Pwynt o Drefn

 

Cododd Dafydd Elis-Thomas bwynt o drefn ynghylch yr eitem flaenorol, gan ofyn a oedd hi’n briodol i Aelod Cynulliad gyfeirio at gorff cyhoeddus ‘fel y ci sy’n troi’n ôl at ei gyfog’. Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd nad ei le ef oedd cyfyngu ar ddadl frathog, ond nad oedd yn ymadrodd y byddai ef ei hun wedi’i ddefnyddio mewn lle cyhoeddus.

 

</AI3>

<AI4>

3     Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Atgyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys

 

Dechreuodd yr eitem am 14.34

 

</AI4>

<AI5>

4     Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 14.58

 

</AI5>

<AI6>

5     Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Datganoli trethi yng Nghymru - Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir

 

Dechreuodd yr eitem am 15.24

 

</AI6>

<AI7>

6     Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn: Lle i’w alw’n gartref? Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru

 

Dechreuodd yr eitem am 16.26

 

</AI7>

<AI8>

7     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 6)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.03

 

NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI8>

<AI9>

8     Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.04

 

NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI9>

<AI10>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

 

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

</AI10>

<AI11>

9     Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015

 

Dechreuodd yr eitem am 17.13

 

NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI11>

<AI12>

10Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

 

Dechreuodd yr eitem am 17.13

 

NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI12>

<AI13>

11Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.27

 

NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI13>

<AI14>

12Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 18.22

 

NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI14>

<AI15>

13Cyfnod pleidleisio

 

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.23

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>